Mae’r Ariannin wedi gwneud dau newid i’r tîm a gollodd i Loegr ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Fe fydd Agustin Figuerola yn cymryd lle Alfredo Lalanne yn safle’r mewnwr a’r clo Mariano Sambucetti yn disodli Esteban Lozada, sydd wedi ei hepgor yn llwyr.
Fe gafodd Figuerola ei drydydd cap yn y golled i Loegr y penwythnos diwetha’, ar ôl dod oddi ar y fainc ond dyw Sambucetti ddim wedi chwarae i’r Piwmas ers 2005.
Yn y datganiadau diweddara’ am y gêm, mae hyfforddwr yr Ariannin wedi dweud ei fod yn disgwyl gêm galed iawn ac asgellwr Cymru, Shane Williams, yn dweud eu bod eisiau dechrau sgorio ceisiau unwaith eto.
Carfan yr Ariannin
15. Horacio Agulla, 14.Lucas Borges, 13.Gonzalo Tiesi, 12.Martin Rodriguez, 11.Mauro Comuzzi, 10.Santiago Fernandez, 9.Agustin Figuerola.
1.Rodrigo Roncero, 2.Mario Ledesma, 3.Martin Scelzo, 4.Mariano Sambucetti, 5.Patricio Albacete, 6.Tomas Leonardi, 7.Alejandro Abadie, 8.Juan Fernandez Lobbe.
Eilyddion- 16.Alberto Vernet Basualdo, 17.Marcos Ayerza, 18.Manuel Carizza, 19.Alejandro Campos, 20.Alfredo Lalanne, 21.Benjamin Urdapilleta, 22.Horacio San Martin.