Mae dadlau wedi codi yn yr Unol Daleithiau tros ddefnydd yr heddlu ddrylliau taser, ar ôl i ferch ddeg oed gael ei saethu.

Yn ôl y plismyn mewn tref fechan yn Arkansas, roedden nhw wedi cael caniatâd mam y ferch i ddefnyddio’r taser arni.

Fis yn ôl fe ddatgelwyd fod Heddlu Gogledd Cymru wedi defnyddio’r taser ar berson o dan 16 oed y llynedd a bod yr arf wedi ei danio 18 gwaith at blant yng Nghymru a Lloegr yn yr un cyfnod.

Mae maer y dref yn yr Unol Daleithiau wedi galw am ymchwiliad ar ôl i’r heddlu gydnabod eu bod nhw wedi saethu’r ferch yn ei chefn.

‘Gwrthod cawod’

Pan gawson nhw’u galw gan y fam, roedd y ferch yn gorwedd yn belen ar y llawr ac yn sgrechian am nad oedd hi’n fodlon cael cawod cyn mynd i’r gwely. Fe ddefnyddiwyd y taser ar ôl iddi gicio un o’r plismyn.

Dywedodd y maer ei fod eisiau i heddlu’r dalaith, neu asiantaeth genedlaethol yr FBI, ymchwilio i weithred y plismon. “Mae pobol fan hyn yn teimlo ei fod wedi gwneud camgymeriad ond fyddwn ni ddim yn gwybod nes cael ymchwiliad diduedd,” meddai.

Dywedodd pennaeth yr heddlu eu bod nhw wedi defnyddio’r taser i reoli’r plentyn a’i hatal rhag brifo ei hun neu rywun arall.