Mae’r Swyddfa dywydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhagweld glaw trwm a thywydd eithafol i Gymru dros y diwrnodau nesaf.

Maen nhw’n rhybuddio bod yna berygl o lifogydd – yn arbennig yn y Gogledd – gyda disgwyl i hyd at 75 i 100mm o law ddisgyn mewn rhai mannau yng Nghymru, Cumbria a gorllewin yr Alban yn ystod y diwrnodau nesaf.

Ddechrau’r bore, roedd nifer o ffyrdd ar gau, yn benna’ yn y Canolbarth – yn eu plith, roedd ffyrdd ym Machynlleth, Meifod, canol Llanfair ym Muallt, rhwng Mallwyd a’r Trallwng a rhwng Bangor Is-y-coed a Cross Lanes yn ardal Wrecsam.

Rhybuddiodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth y gallai ymchwydd yn y llanw yng ngogledd Mor Iwerddon heno ac yfory arwain at lifogydd yn Aberystwyth a gweddill arfordir y gorllewin.

Mae arbenigwyr hefyd yn disgwyl gwyntoedd cryfion o hyd at 60 neu 70 milltir yr awr yn yr un ardaloedd.

“Cadw llygad”

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag asiantaethau, awdurdodau lleol a gwasanaethau brys i sicrhau eu bod nhw wedi eu paratoi,” meddai Bob Wilderspin o’r Swyddfa Dywydd.

“Yn y cyfamser, rydyn ni’n cynghori pobl i gadw llygad ar y tywydd drwy wylio’r teledu, gwrando ar y radio a defnyddio’r We,” meddai.

Dywedodd llefarydd arall ar ran yr Asiantaeth Dywydd fod rhagor o rybuddion tywydd eithafol ynghyd â rhybuddion llifogydd o fewn y 24 awr nesaf yn “debygol”.

Mae’r Asiantaeth yn galw ar bobol i gadw llygad ar yr henoed, i gadw eitemau gwerthfawr yn ddiogel ac i baratoi ar gyfer diffodd y nwy a’r trydan.