Mae Cyngor Sir Powys wedi cyfaddef bod gemwaith a oedd ‘wedi ei ddwyn’ yn eu swyddfeydd trwy’r amser.
Bum mlynedd yn ôl roedd y Cyngor wed galw’r heddlu ar ôl i fodrwyau, tlysau a mwclis ddiflannu ar ôl cael eu cymryd i Neuadd y Sir i’w catalogio.
Fe fu Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i’r achos, heb lwyddiant …. ond cafodd y dirgelwch ei ddatrys yr wythnos diwethaf pan ddaeth gweithwyr y cyngor o hyd i’r gemwaith mewn swyddfa yn Llandrindod.
‘Synnu’
Dywedodd y Cynghorydd David Price, cadeirydd Cyngor Sir Powys, bod y camgymeriad yn un “chwithig”.
“Rydym ni wrth ein bodd ond yn synnu bod y gemwaith wedi ei ddarganfod,” meddai. “Mae braidd yn chwithig bod y gemwaith wedi bod ym meddiant y cyngor yr holl amser, ond y peth pwysig yw bod y casgliad wedi’i ddarganfod.”
Roedd y gemau wedi eu gadael i’r Cyngor yn ewyllys gwraig o’r enw Leila Williams.