Mae meddyg yn dweud bod 16 o bobol wedi eu lladd mewn ffrwydrad y tu allan i lys yn ninas Peshawar yng ngogledd orllewin Pacistan.
Y ffrwydrad heddiw oedd y diweddaraf i daro’r ddinas yn yr wythnosau diwethaf wrth i’r Taliban ddial am ymosodiadau byddin Pacistan arnyn nhw ger y ffin ag Afghanistan.
Dywedodd y doctor Saib Gul bod 16 corff a 26 o bobol wedi’u hanafu wedi eu cymryd i ysbyty Lady Reading y ddinas.
Y bom heddiw oedd y chweched mewn llai na phythefnos yn ardal Peshawar, ymosodiadau sydd wedi lladd mwy nag 80 o bobol – mae mwy na 300 wedi eu lladd yno mewn ychydig mwy na mis.
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Pacistan, roedd yr heddlu’n archwilio dyn wrth y gât i un o lysoedd y ddinas pan daniodd ffrwydron ar ei gorff.