Rhaid i Lywodraeth Afghanistan brofi ei hun os yw hi am barhau i gael cefnogaeth gwledydd eraill, meddai gweinidog tramor yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton.
Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol bod disgwyl i’r llywodraeth newydd fynd i’r afael â llygredd gwleidyddol, i hyfforddi ei lluoedd ei hun i gymryd lle’r milwyr tramor a gwella bywydau pobol dlawd y wlad.
Roedd Hillary Clinton yn siarad yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul, wrth i’r wlad ail-urddo Hamid Karzai yn Arlywydd.
Enillodd Hamid Karzai ail dymor ar ôl etholiad wedi ei ddifetha gan dwyll a llygredd ond, wrth dderbyn y swydd, mae wedi gwahodd ei brif gystadleuydd, Abdullah Abdullah, i ymuno mewn llywodraeth o “undod cenedlaethol”.
Angen gweld ‘budd pendant’
“Mae yna ddealltwriaeth glir ar ran nid yr Arlywydd Karzai a’r llywodraeth yma, bod rhai i ganlyniad yr etholiad gael effaith ar fywydau pobol Afghanistan,” meddai Hillary Clinton.
Dywedodd bod y gymuned ryngwladol “yn fodlon cefnogi ymdrechion Llywodraeth Afghanistan” ar yr amod eu bod nhw o “fudd pendant” i’r wlad.
Mae’r Unol Daleithiau wedi rhoi arian at fenter i ehangu diwydiant sudd grawnafal y wlad, yn y gobaith y bydd ffermwyr yn troi eu cefnau ar dyfu opiwm.
Ac fe anogodd newyddiadurwyr i gymryd llwnc o’r sudd – “Mae’n gostwng eich colesterol,” meddai Hillary Clinton.