Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi tynnu sylw at raglen gwerth £33m i gynnig cannoedd o ysgoloriaethau ymchwil er mwyn datblygu sgiliau i hybu economi Cymru.
Fe fydd Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) yn creu mwy na 400 o lefydd meistri a doethuriaeth dros y pum mlynedd nesa’ trwy brosiectau ar y cyd rhwng Prifysgolion a busnesau.
Fe fydd pob ysgoloriaeth yn cynnig bwrsari o hyd at £13,300 yn ogystal â hyfforddiant ymchwil a busnes ac mae’r gwaith o lenwi’r llefydd eisoes wedi dechrau.
Bwriad y rhaglen yw darparu’r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen ar fusnesau i ddatblygu ymhellach a gweithredu syniadau newydd.
Fe fydd y rhaglen yn canolbwyntio ar sectorau allweddol, gan gynnwys technoleg ddigidol, economi carbon isel, iechyd a biowyddoniaeth yn ogystal â pheirianneg uwch a chynhyrchu.
Mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda phrifysgolion eraill Cymru ac mae £21 miliwn o’r costau yn arian Ewropeaidd.
Medden nhw
“Yn ogystal â chynnig cannoedd o gyfleoedd i unigolion ennill sgiliau lefel uwch, cymwysterau a phrofiad ymarferol, fe fydd yr ysgoloriaethau hefyd yn gwneud lles i ymchwil cwmnïau o fewn y sectorau allweddol.” – Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Prif Weinidog, Llywodraeth y Cynulliad.
“Fe fydd yn allweddol i ddatblygu gweithwyr hyblyg a medrus i gefnogi trawsnewidiad economi Cymru.” – Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth y Cynulliad.