Wrth i Gymru ddadlau tros refferendwm, mae’n bosib y bydd yr Alban yn cael rhagor o bwerau i reoli ei threthi ei hun.

Dyna oedd un o’r addewidion yn Araith y Frenhines ddoe, gyda’r Llywodraeth Lafur yn dweud ei bod yn bosib gweithredu cyn etholiadau nesa’ Senedd yr Alban yn 2011.

Er hynny, fe fydd rhai’n gweld yr addewid yn ymgais i greu trafferthion gwleidyddol i Lywodraeth yr SNP, sy’n gwrthod cefnogi’r syniad fel y mae, ac yn ymgais i orfodi’r Ceidwadwyr i roi eu barn yn blaen.

Y bwriad, meddai Llafur, yw gweithredu ar argymhellion a wnaed mewn adroddiad gan Gomisiwn Calman a sefydlwyd gan Senedd yr Alban ym mis Rhagfyr 2007.

Maen nhw’n dweud y bydd modd cyhoeddi Papur Gwyn yn yr wythnosau nesa’.

Yr argymhellion

Roedd Comisiwn Calman argymell rhoi cyfrifoldeb i Lywodraeth Holyrood am hanner trethi’r wlad, gan gynnwys yr hawl i osod treth incwm. O ganlyniad, fe fyddai’r Alban yn colli hanner ei grant o Lundain a’r Trysorlys yno’n cael 10c o’r dreth incwm.

Fe ddywedodd Ysgrifennydd yr Alban, Jim Murphy, wrth bapur newydd y Scotsman mai’r unig rwystr oedd yr SNP. Roedd eu harweinydd Alex Salmond wedi dweud mai peth anghwrtais oedd parhau i wahodd rhywun i fynd i barti yn erbyn eu hewyllys.

Yn ôl y Scotsman, mae’r SNP yn amau cymhellion y Blaid Lafur ac yn dweud nad oes angen deddfau newydd i gyflawni llawer o’r amcanion. Roedden nhw eisoes wedi gwrthod adroddiad y Comisiwn am beidio â mynd yn ddigon pell.

Meddai Murphy

“Mae hyn yn symud datganoli o anghytuno a beio at gyfrifoldeb. Mae’n cryfhau Senedd yr Alban, yn ei gwneud yn well ac yn fwy atebol i bobol yr Alban.” – Jim Murphy, Ysgrifennydd yr Alban ym mhapur y Scotsman.