Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn rhybuddio y bydd rhaid ystyried gweithredu yn erbyn Iran tros eu rhaglen niwclear.
Fe ddywedodd Barack Obama ei fod yn trafod beth i’w wneud nesa’ gyda gwledydd eraill ar ôl i Iran wrthod cytundeb i anfon wraniwm i Rwsia i’w brosesu.
Dyna’r cynnig oedd wedi ei wneud gan y gwledydd mawr er mwyn sicrhau mai heddychlon fydd datblygiadau niwclear yn Iran.
Roedd yna ganlyniadau i benderfyniad Iran, meddai’r Arlywydd yn ystod ei ymweliad â De Korea lle mae pryderon hefyd am fwriadau niwclear eu cymydog Comiwnyddol yn y Gogledd.
Mewn cyfarfod gydag Arlywydd y De, Lee Myung-bak, fe ddywedodd Barack Obama mai’r bwriad yno oedd cynnig cymorth a chonsesiynau eraill i’r Gogledd am gael gwared ar ei harfau niwclear.