Mae’r heddlu wedi gwrthod cadarnhau bod chwech o Aelodau Seneddol ac Arglwyddi mewn peryg o wynebu achosion llys tros eu lwfansau.
Mae’r Daily Telegraph – y papur newydd a gyhoeddodd straeon y sgandal – yn dweud bod ffeiliau ar fin cael eu hanfon at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i’w hystyried.
Fe fydd y Cyfarwyddwr, Keir Starmer, yn dod i benderfyniad yn gynnar yn y flwyddyn newydd, meddai’r papur, ond does dim cadarnhad gan ei swyddfa yntau chwaith.
Yn ôl y stori, y chwech sy’n cael eu hystyried yw’r ASau Llafur, Elliott Morley, David Chaytor a Jim Devine, ynghyd â’r Arglwyddi, y Farwnes Udin, yr Arglwydd Hanningfield a’r Arglwydd Clarke o Hampstead.
Mae’r honiadau yn erbyn Elliott Morley a David Chaytor yn ymwneud â hawlio am forgeisi ‘rhithiol’ – morgeisi a oedd wedi’u talu eisoes – a thros fil am waith trydanol gan gwmni gyda chyfeiriad ffug yn achos Jim Devine.
Hawlio lwfansau dros nos yw’r broblem yn achos yr Arglwyddi.
Llun: Y dyn fydd yn penderfynu – Keir Starmer, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus