Mae ITV wedi rhyddhau pôl YouGov sy’n awgrymu bod mwy o gefnogaeth ar gyfer hawliau deddfu pellach i’r Cynulliad nag yr oedd adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan yn ei awgrymu.
Yn ôl ar arolwg ar-lein o 1,080 o oedolion, byddai 51% o blaid hawliau deddfu pellach i’r Cynulliad a 30% yn erbyn.
Roedd arolwg y Confensiwm Cymru Gyfan wedi dweud y byddai 47% o blaid a 37% yn erbyn.
Roedd y cwestiwn yn gofyn ‘Pe bai yna refferendwm yfory ar roi hawliau deddfu pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sut fyddech chi’n pledleisio?’
Yn y Pôl YouGov dywedodd 6% na fydden nhw’n pleidleisio a 14% nad oedden nhw’n gwybod.
Dyddiad y refferendwm
Roedd ail gwestiwn y pôl yn awgrymu bod galw am refferendwm cynnar, cyn neu ar yr un diwrnod a etholiad 2011.
Y cwestiwn oedd ‘Yn eich barn chi a ddylai refferendwm ar fwy o bwerau ar gyfer y Cynulliad gael eu cynnal ar…’ ac yna rhestr o opsiynau.
Roedd 26% yn dweud y dylai refferendwm gael ei gynnal cyn neu ar ddyddiad etholiad cyffredinol 2010.
Roedd 22% yn credu y dylai cael ei gynnal cyn neu ar ddyddiad etholiad Cynulliad mis Mai 2011, a 19% yn credu y dylid ei gynnal ar ôl etholiad Cynulliad 2011.
Dim ond 18% atebodd na fyddan nhw eisiau cynnal refferendwm ar bwerau pellach o gwbl. Doedd 15% o rai atebodd yr arolwg ddim yn gwybod.
Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng Tachwedd 16 a 18.