Mae tîm Cymru dan 21 wedi colli 2-1 yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn eu gêm ragbrofol yn Sarajevo.

Cafodd Cymru’r dechreuad perffaith ar ôl i Joe Allen sgorio wedi chwe’ munud yn unig.

Ond yn ôl ddaeth Bosnia wrth i Anes Haurdic sgorio gôl haeddiannol wedi hanner awr.

Fe wnaeth Bosnia bwyso’n galed am weddill yr hanner, ac roedd Cymru’n falch i glywed y chwiban ar hanner amser, gyda’r sgôr yn gyfartal.

Fe gychwynnodd Cymru’r ail hanner yn llawer cryfach, ond fel aeth yr ail hanner yn ei flaen, Bosnia oedd yn rheoli.

Wedi awr o’r gêm, fe gafodd Bosnia gic o’r smotyn, ond fe wnaeth Chris Maxwell arbed ymdrech Nenad Kiso, i achub Cymru am y tro.

Ond pum munud yn ddiweddarach, fe wnaeth Anes Haurdic sgorio ei ail gôl o’r gêm i roi Bosnia ar y blaen a sicrhau’r fuddugoliaeth.

Dyma golled gyntaf Cymru o’r ymgyrch, ac maen nhw dal ar frig y grŵp. Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Bosnia o’r ymgyrch.

Fe fydd rhaid i Gymru ennill un o’u dwy gêm olaf o’r ymgyrch yn erbyn naill ai Hwngari neu’r Eidal i sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.