Dyw Shane Williams ddim yn credu bod angen poeni nad yw Cymru wedi sgorio nifer o geisiau eleni.

Dyw record ceisiau Cymru’r flwyddyn hon ddim yn gryf iawn, gydag naw cais yn unig mewn saith gêm.

Ond mae Shane Williams yn credu ei fod yn fater o amser yn unig cyn bod y tîm yn sgorio’n gyson.

“Mae gyda ni ddigon o ddawn yn y tîm. R’y ni’n gallu sgorio ac fe ddaw y ceisiau unwaith eto. Does dim angen pryderu am hynny.”

Mae asgellwr y Gweilch wedi sgorio 46 cais mewn 66 gêm dros Gymru, ond dyw’r ceisiaiu heb lifo i Williams chwaith yn 2009.

Blwyddyn wael i Shane

Pe bai’n methu sgorio yn erbyn yr Ariannin neu Awstralia, 2009 bydd y flwyddyn waethaf iddo o ran ceisiau dros Gymru.

Mae’r asgellwr wedi sgorio dwy gais yn unig i Gymru yn 2009, o’i gymharu â naw yn 2008 a phump yn 2007.

Ond dyw Shane Williams ddim yn credu mai tuedd timau i gicio mwy a mwy o’r bêl sy’n gyfrifol am hynny.

Mae ystadegau’n datgelu bod y ddau dîm orau yn y byd, De Affrica a Seland Newydd, yn cicio’r bêl yn fwy cyson nag unrhyw dim arall.

Ond mae Shane Williams yn derbyn bod cicio wedi dod yn rhan annatod o rygbi.

“Dyw’r math ‘na o gêm ddim yn gweddu â fy steil o chwarae”, meddai Williams.

“Ond fel arfer gyda rygbi ping-pong, mae’n creu tyllau, a dyna pryd mae modd i fi fachu fy nghyfle.”