Mae pryderon y gallai prinder arian elusennol arwain at ddifa anifeiliaid sydd mewn gofal yn ne Cymru.
Yn ôl gwirfoddolwyr Canolfan Achub De Cymru, maen nhw wedi bod yn defnyddio eu harian eu hunain i gynnal y lloches ers dros flwyddyn, ond does ganddyn nhw ddim ar ôl i’w roi.
Yn ôl un o’r gwirfoddolwyr, Caz Jones, mae hi wedi defnyddio £3,000 o bunnoedd o’i harian ei hun i brynu gwair i anifeiliaid yn y lloches ym Mrynaman.
Does prin dim cefnogaeth ariannol wedi bod ar gael i’r lloches ers 18 mis, meddai wrth golwg360, a’r “credit crunch” sydd i’w feio am hynny yn ei thyb hi.
Mae hi’n credu nad oes cymaint o arian gan bobol oherwydd y trafferthion economaidd a’i barn hi yw mai anifeiliaid anwes yw’r cyntaf i ddioddef yn sgil hynny.
Dywedodd hefyd fod mwy o anifeiliaid – yn enwedig ceffylau – wedi bod yn cael eu derbyn yn y lloches, am nad oes gan bobol mo’r adnoddau ariannol i’w cadw.
Hefyd, dywedodd ei bod hi’n cael mwy o drafferth canfod cartrefi newydd i’r anifeiliaid, yn enwedig cŵn mawr a cheffylau.
£500 yr wythnos
Dywedodd Caz Jones fod codi arian yn y dulliau traddodiadol drwy ymweld â ffeiriau ac arwerthiannau cist car wedi bod yn anodd iawn oherwydd y tywydd gwael.
Mae angen tua £500 yr wythnos i gadw’r safle i fynd meddai, a dywedodd mai dim ond tua £200 a godwyd yr wythnos ddiwethaf, a bod y swm ar gyfer yr wythnosau cyn hynny yn is eto.
Dyw hi ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd petai’r lloches yn cau, ond mae hi’n bosib y byddai’n rhaid difa anifeiliaid.
Dywedodd y byddai’n trio ei gorau i gael cartref newydd i bob un ohonyn nhw petai’r lloches yn cau, ond y byddai hynny’n anodd am nad yw llochesau eraill yn debygol o gymryd rhai o’r anifeiliaid sydd ganddyn nhw.
Os oes unrhyw un am gefnogi Canolfan Achub De Cymru, mae manylion cysylltu’r lloches ar gael er eu gwefan: http://www.southwalesanimalrescue.org.uk/index.htm