Fe fydd y bocsiwr o Abertawe, Enzo Maccarinelli yn dychwelyd i’r sgwâr focsio ym mis Rhagfyr, er mwyn ceisio ailgydio yn ei yrfa.

Dyw ei wrthwynebydd heb ei enwi eto, ond fe fydd disgwyl iddo ymladd yn yr un digwyddiad a gornest Amir Khan yn erbyn Dimitry Salita yn Newcastle ar 5 Rhagfyr.

Mae Maccarinelli wedi colli ei ddwy ornest ddiwethaf, ac roedd wedi ystyried ymddeol ar ôl colli yn erbyn Denis Lebedev mewn tair rownd yn mis Gorffennaf.

Mae’r Cymro wedi newid hyfforddwr am yr ail dro ar ôl torri ei gysylltiad gyda Enzo Calzaghe.

Fe fydd Maccarinelli yn cael ei hyfforddi gan Derek Lewis o Abertawe, ar ôl penderfynu peidio parhau i ymarfer gyda Karl Ince yn Bolton.


King i herio DeGale

Fe fydd Cymro arall hefyd yn rhan o’r digwyddiad yn Newcastle, gyda Nathan King o Aberpennar yn wynebu’r pencampwr Olympaidd James DeGale.

Yn ystod gyrfa 26 gornest, mae King wedi ennill 12 a cholli 14. Dyw e heb golli yn ei bum ornest ddiwethaf tra bod DeGale wedi ennill ei dair ornest ers troi’n broffesiynol.

Ond dim ond dau focsiwr sydd wedi stopio King yn ystod ei yrfa, sef cyn bencampwr Prydain, Tony Quigley a’r Ffrancwr Jean Paul Mendy.