Mae cwmni Boots wedi ymddiheuro am gael y Gymraeg yn anghywir ar arwydd yn un o’i siopau.

Roedd yr arwydd yn siop Boots Parc Llandudno, sy’n agor 2 Rhagfyr, yn dweud “Yma’n faun fferyllfa”.

“Fe wnaethon ni sylwi’n syth fod yr arwydd yn anghywir ac fe wnaethon ni gymryd camau i’w gywiro,” meddai llefarydd Prydeinig ar ran Boots.

“Yn y cyfamser, mae’r arwydd wedi ei gywiro ac rydan ni’n ymddiheuro am y camgymeriad gwreiddiol.

“Fe wnaeth Boots lansio Polisi Iaith Gymraeg mewn cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru’r Bala, Awst 2009.

“Rydan ni’n deall anghenion ein cwsmeriaid ac mae’r polisi hwn yn dangos ein hymrwymiad i hynny.”

Dywedodd Osian Jones, swyddog Cymdeithas yr Iaith yn y Gogledd, bod y camgymeriad yn dangos “nad oes gan Boots lawer o barch at yr iaith Gymraeg.

“Rydym ni eisiau i bob arwydd fod yn ddwyieithog, ac mae cywirdeb ieithyddol yn bwysig iawn.”