Mae pencampwr Fformiwla Un y byd, Jenson Button wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni ceir McClaren i sefydlu partneriaeth Brydeinig gyda Lewis Hamilton.
Bydd hyn yn golygu bod y ddau bencampwr diwetha’ yn rasio dros McLaren y tymor nesa’ – Hamilton a enillodd yn 2008.
Cymerodd cwmni Mercedes reolaeth o Brawn, y tîm yr oedd Button yn rhan ohono, ddechrau’r wythnos.
Fe wrthododd Button y cynnig o gytundeb newydd gyda Brawn am nad oedd yn teimlo bod y cynnig yn dderbyniol.
Mae yna sôn hefyd bod Button yn credu y bydd ganddo well cyfle i ddal gafael ar ei goron wrth rasio i McClaren – wnaeth e ddim ennill ras gyda Brawn yn rhan ola’r tymor.
Roedd yna adroddiadau bod Kimi Raikkonen yn mynd i rasio i McClaren unwaith eto, ond mae’r gŵr o’r Ffindir wedi cyhoeddi ei fod yn gadael Fformiwla Un i gystadlu ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd.