Mae pobol Cymru yn gwario bron cymaint ar bethau diangen ac y maen nhw’n ei arbed bob mis, yn ôl arolwg a gafodd ei gyhoeddi heddiw.
Yn ôl yr arolwg gan Onepoll, mae pobol Cymru ar gyfartaledd yn gwario £154 pob mis ar eitemau nad oes eu hangen arnyn nhw – bron cymaint â’r £219 y maen nhw’n ei gynilo.
Mae’n ymddangos mai trigolion Llundain sydd waetha’ (£195 pob mis), â’r Alban yn eu dilyn (£164).
Y Nadolig sy’n cael y bai penna am wneud i bobol wario’n ddiangen (gyda 51% yn dweud hynny) ac mae penblwyddi’n cyfrif am 35%. Roedd 34% yn dweud eu bod nhw’n gorwario ar wyliau.
Fe wnaeth Onepoll arolwg o 3,000 o bobol ddechrau mis Tachwedd.
Cynilo
Er hynny, roedd yr arolwg yn dweud bod pobl yn fwy gofalus gyda’u harian yn sgil y dirwasgiad.
Mae 67% o bobol Prydain pellach yn arbed mwy o arian, ac 86% yn dweud eu bod yn cadw llygad barcud ar eu hadroddiadau banc.
“Mae’n braf gweld fod pobol yn cadw llygad craffach ar eu harian,” meddai John Hughes, Cyfarwyddwr Banc y Co-op.
Yn ôl yr adroddaid Llundeinwyr sy’n cynilo fwyaf hefyd – £296 bob mis.