Mae Llywodraeth yr Alban dan bwysau i gyhoeddi’r holl ddogfennau sy’n ymwneud â bomiwr Lockerbie a hynny 90 niwrnod wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar am resymau dyngarol.
Mae’r Torïaid wedi dweud heddiw y dylai holl ddogfennau am Ali Mohmed al-Megrahi fod ar gael i’r cyhoedd – yn ôl yr arfer, dim ond carcharorion sy’n mynd i farw o fewn tri mis sydd i fod i gael ei rhyddhau.
Fe gafodd Ali Mohmed al-Megrahi ei ddedfrydu i garchar am oes am ffrwydro awyren dros dref Lockerbie yn 1998 gan ladd 270 o bobol.
Ond, gan fod ganddo ganser prostad angheuol, cafodd ei ryddhau o garchar Greenock, 20 Awst.
“Gwrthod cyhoeddi”
Mae Bill Aitken, llefarydd Torïaidd yr Alban wedi dweud fod “Alex Salmond [Prif Weinidog yr Alban] wedi gwrthod cyhoeddi cyngor meddygol annibynnol” a gafodd ei ddefnyddio i wneud y penderfyniad.
“Fe gollodd Mr Megrahi yr hawl i breifatrwydd claf pan ddaeth yn un o lofruddion gwaetha’ Prydain,” meddai. “Mae’n rhaid i Lywodraeth yr Alban sicrhau fod y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi.”
Mae llefarydd ar ran Prif Weinidog yr Alban yn dweud fod y penderfyniad i ryddhau’r bomiwr “yn gywir” a’i fod wedi’i wneud am y “rhesymau cywir”.
Cefndir y penderfyniad
Pan gafodd y bomiwr ei ryddhau, dywedodd Gweinidog Cyfiawnder yr Alban, Kenny MacAskill, fod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail tystiolaeth a chyfraith, nid gwleidyddiaeth.
“Nid oes cyfyngiad amser penodol ond gellid ystyried ei fod yn addas rhyddhau carcharor gyda thri mis i fyw ar sail ddyngarol,” meddai.
Roedd pennaeth meddygol gwasanaeth carchar yr Alban, Dr Andrew Fraser wedi dweud mewn adroddiad ar 10 Awst mai dim ond ychydig o fisoedd oedd gan y bomiwr i fyw.
Roedd yr adroddiad yn dweud fod ei iechyd wedi “dirywio’n sylweddol” a bod prognosis o dri mis yn ei achos ef yn “rhesymol”.
Mae Ali Mohmed al-Megrahi ei hun yn gwadu ei fod yn euog.