Mae angen llawer llai o heddluoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, meddai un o arweinwyr yr heddlu.

Dywedodd Syr Hugh Orde, Llywydd Cymdeithas Penaethiaid yr Heddlu ACPO, mai dim ond naw heddlu sydd eu hangen, yn hytrach na’r 44 ar hyn o bryd.

Fe fyddai hynny, fwy na thebyg, yn golygu un heddlu i Gymru gyfan.

Mae cyn Brif Gwnstabl Gogledd Iwerddon hefyd wedi beirniadu’r Llywodraeth am “ddiffyg arweiniad” ar y pwnc. Ym mhapur y Times, mae’n dweud fod 40 mlynedd ers yr arolwg cynhwysfawr diwetha’.

Yn 2005, cafodd cynlluniau i ostwng nifer yr heddluoedd o 43 i 17 eu gwrthod. Ar y pryd, y bwriad oedd cael un heddlu yn lle pedwar yng Nghymru ac fe fu trafodaethau manwl.

‘Y byd yn lle gwahanol iawn’

Dywedodd Hugh Orde “nad oedd yna unrhyw frwdfrydedd gwleidyddol i drafod hyn hyd yn oed.”

“Mae’n hen bryd gweld a ydi’r strwythur yn gweithio,” meddai. “Yn 1962 doedd terfysgaeth ryngwladol ddim yn bod, doedd y problemau yng Ngogledd Iwerddon ddim yno – roedd y byd yn lle gwahanol iawn.”