Mae eisiau rhyddhau dyn sy’n honni ei fod wedi tagu ei wraig yn ei gwsg, meddai seiciatrydd wrth Lys y Goron Abertawe.
Clywodd y rheithgor bod Brian Thomas, 59 oed, yn dioddef o’r anhwylder cysgu anarferol, awtomatiaeth, sy’n golygu nad oedd yn gallu rheoli ei weithredoedd pan dagodd ei wraig wrth freuddwydio.
Mae’n rhaid i’r rheithgor benderfynu os yw’n euog o lofruddiaeth neu ddynladdiad, neu’n ddieuog ar sail gwallgofrwydd.
Roedd Brian Thomas wedi lladd ei wraig Christine Thomas, 57 oed, yn eu fan camper ym mis Gorffennaf 2008, ar ôl aros am y nos mewn maes parcio yn Aberporth. Roedden nhw wedi bod yn briod ers 40 mlynedd.
Mae Brian Thomas yn honni ei fod o wedi ei lladd yn ei gwsg wrth freuddwydio ei fod yn ymladd rhywun oedd wedi torri i mewn i’w fan.
Roedd y cwpwl wedi symud o faes parcio arall yn Aberporth y noswaith honno, ar ôl i bobol darfu arnyn nhw trwy yrru ceir yn gyflym.
Awtomatiaeth – ‘gwallgof’
Clywodd y llys nad oedd Brian Thomas, o Park Avenue, Castell-nedd, wedi cymryd ei feddyginiaeth yn ystod y gwyliau.
Clywodd y rheithgor fod yna ddau fath o awtomatiaeth – awtomatiaeth wallgof ac awtomatiaeth nad oedd yn wallgof.
Dywedodd arbenigwr o’r Coleg Seiciatrig Brenhinol, Dr Caroline Jacob, ei bod hi’n credu bod Brian Thomas yn dioddef o awtomatiaeth wallgof ond mai mater i’r rheithgor oedd penderfynu hynny.
Dywedodd ei bod hi’n annhebygol y byddai’r un peth ddigwydd eto yn achos Brian Thomas, ac y dylai, yn ei barn hi, gael ei adael yn rhydd.