Mae hyfforddwr Cymru wedi dweud nad yw’n poeni llawer am sgrym pwerus yr Ariannin.
Mae Warren Gatland wedi gwrthod awgrymiadau mae’r Ariannin sydd â’r sgrym cryfa’ yn y gêm.
“Rwy’n anghytuno mai’r Ariannin yw’r bygythiad mwya’ yn y sgrym – r’yn ni wedi edrych ar dapiau o’u gemau yn y gorffennol,” meddai.
“Rwy’ wedi siarad â Graham Rowntree (hyfforddwr sgrym Lloegr) ac roedd e’n credu bod sgrym Awstralia yn llawer cryfach nag un yr Ariannin.
“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar sgrym ein hunain a pheidio â rhoi sgrym yr Ariannin ar bedestal.”
Ond gyda sgrym Cymru’n wan yn erbyn Samoa, fe fydd yr Ariannin yn siŵr o dargedu unrhyw wendid.
Cicio’r bel
Dywedodd Gatland ei fod yn disgwyl i’r Archentwyr gicio’r bêl fwy nag yr oedden nhw yn erbyn Lloegr.
“Maen nhw’n dîm anodd eu curo a r’yn ni’n disgwyl gêm galed a chorfforol yn eu herbyn,” meddai.
“Fe fydd yn rhaid i ni fod yn graff yn ein chwarae. Efallai bod angen i ni godi’r tempo a’r dwyster.”