Mae Warren Gatland wedi annog y canolwr newydd Jonathan Davies i fwynhau ei hun yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.
Fe fydd canolwr ifanc y Scarlets yn dechrau ei gêm gyntaf dros Gymru ar ôl i Tom Shanklin dorri ei drwyn.
Mae Davies wedi cael ei ddewis yn rhif 12 gyda chanolwr y Gleision, Jamie Roberts, yn symud i 13.
“Does dim pwysau ar Jonathan. Mae’n fater o fynd allan ar y cae a chwarae a mwynhau’r gêm”, meddai hyfforddwr Cymru.
“R’yn ni’n gwybod ei fod yn fawr, yn gorfforol ac yn gyflym ac mae wedi sgorio nifer o geisiau i’r Scarlets. D’yn ni ddim am roi llawer o gyfarwyddiadau iddo, jyst mynd mas a mwynhau.”
Mae Davies yn un o chwech newid i’r tîm a gurodd Samoa nos Wener ddiwethaf, gyda Shane Williams, Stephen Jones, Matthew Rees, Martyn Williams a Gareth Cooper yn dychwelyd i’r pymtheg cyntaf. Ar wahân i Davies, dyma’r tîm a ddechreuodd yn erbyn y Crysau Duon.