Does yna ddim dadl gwbl bendant dros alw refferendwm cynnar ar bwerau llawn i’r Cynulliad, meddai’r Prif Weinidog heddiw.

Roedd Rhodri Morgan yn ymateb i gyhoeddi adroddiad hir-ddisgwyliedig sy’n cefnogi cael hawliau deddfu llawn i’r Cynulliad mewn meysydd sydd wedi’u datganoli.

“Mae’n dangos bod yr archwaeth [am fwy o bwerau] yno dan rai amgylchiadau a bod lefel y ddealltwriaeth yno i gael refferendwm y byddai modd ei ennill,” meddai Rhodri Morgan yn y Senedd.

“Ond dyw e ddim yn sicr y bydden ni’n ennill ac mae’r rhesymau am hynny yn cael eu hesbonio yn y ddogfen, a dw i angen mwy o amser i’w hastudio hi.”

Fe fydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad i ACau yn y Senedd ynglŷn â’r adroddiad Dydd Mawrth nesaf.

Ieuan Wyn Jones yn ymateb yn ofalus

Gofalus oedd ymateb arweinydd Plaid Cymru hefyd – er bod refferendwm cyn 2011 yn un o amodau’r blaid wrth ymuno gyda Llafur yn y llywodraeth glymblaid.

“Mae casgliadau’r adroddiad yn gwbl glir ac mae’n rhaid eu hastudio nhw’n ofalus,” meddai Ieuan Wyn Jones, sydd hefyd yn Ddirprwy Brif Weinidog.

“Bydd rhaid i ni nawr drafod yr adroddiad mewn manylder gyda’n partneriaid yn y glymblaid a phenderfynu pryd y dylai refferendwm gael ei gynnal.”

Yr ymateb ehangach

Cymysg yw’r ymateb i’r adroddiad fel arall, gydag awgrym y bydd brwydr o fewn rhai o’r pleidiau …

Hain o blaid y system bresennol

Mae Ysgrifennydd Cymru Peter Hain wedi amddiffyn y system bresennol, gan ddweud bod yna risg na fyddai refferendwm yn cael ei ennill.

Y diwrnod o’r blaen, fe aeth allan o’i ffordd i ganmol pwerau newydd oedd wedi dod o dan y drefn bresennol a’r gred yw bod carfan gref o ASau Llafur yn ei gefnogi.

‘Wedi syrffedu’ – Helen Mary Jones

Yn ôl dirprwy arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad, Helen Mary Jones, mae “pobol wedi syrffedu gorfod mynd i fegera at San Steffan i wneud cyfreithiau ar gyfer cymunedau Cymreig.

“Mae pobol yn medru gweld nad yw’r Cymry ddim llai abl na’r Sgotiaid i wneud eu deddfau eu hunain.”

Beirniadaeth o’r system – Bourne a Williams

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Nick Bourne, “nad oedd yn synnu o gwbl bod y Comisiwn wedi adnabod methiannau’r sustem bresennol a gweld mantais mewn symud tuag at bwerau llawn”.

Galwodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, am benderfyniad buan ynglŷn â dyddiad y refferendwm yn fuan. “Mae’r adroddiad yn feirniadaeth hallt ar y sustem bresennol,” meddai.

Y cefndir

Yn ôl yr adroddiad gan Gonfensiwn Cymru Gyfan, mae’n bosib ennill refferendwm ond does dim gwarant y byddai hynny’n digwydd.

Mae clymblaid Llafur a Phlaid Cymru wedi addo refferendwm cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2011.

Cafodd y Confensiwn Cymru Gyfan ei benodi gan y Llywodraeth i holi pobol, mudiadau a chyrff trwy Gymru am y drefn bresennol, am bwerau llawn ac am y tebygrwydd bod refferendwm yn llwyddo.

Dywedodd y Comisiwn bod y sustem bresennol yn un “feichus” ac nad oedd y rhan fwyaf o bobol yn ei deall. Fe fyddai pwerau deddfu llawn – heb orfod cael caniatâd San Steffan – yn dod ag “eglurder”, meddai.

Mae’r adroddiad yn 130 tudalen, yn ffrwyth holi tua 3,000 o bobol, cyrff a mudiadau ac fe gostiodd y broses £1.3 miliwn.

Os bydd y Cynulliad yn galw am refferendwm gyda mwyafrif o ddwy ran o dair a San Steffan yn cytuno, bydd y cwestiwn yn y refferendwm yn cael ei ddrafftio gan Ysgrifennydd Cymru ar ôl trafodaethau gyda’r Comisiwn Etholiadol.


Y dadleuon o blaid

Mewn erthygl i gylchgrawn Golwg ac wrth siarad gyda’r wasg, mae Cadeirydd y Confensiwn, y diplomydd. Syr Emyr Jones Parry, wedi nodi rhai o’r prif ddadleuon o blaid cael pwerau deddfu llawn yn y meysydd sydd wedi eu datganoli:

• Dyw’r rhan fwya’ o bobol ddim yn deall y trefniadau ar hyn o bryd. “Dyw hyn ddim yn syndod,” meddai, “oherwydd eu bod yn gymhleth ac yn fiwrocrataidd.”

• Fel y mae, pe bai’r Cynulliad eisiau deddfu mewn maes eang, er enghraifft newid hinsawdd, efallai y byddai angen 5-6 eLCO neu Orchymyn Deddfu a gobeithio bod hynny’n sicrhau’r holl rym angenrheidiol.

• Mae angen i drefn o wneud cyfreithiau fod yn glir a “thryloyw” er mwyn ennill parch. Mae pwerau llawn yn cwrdd â hynny’n well na’r drefn bresennol.

• Ddylai pwerau llawn ddim costio rhagor, gyda’r adnoddau sy’n mynd ar drefn yr eLCOs yn cael ei ddefnyddio i wneud deddfau.

Fe bwysleisiodd Syr Emyr Jones-Parry fod arweinydd poblogaidd yn bwysig iawn mewn refferendwm – er ei fod yn gwadu hynny, fe fydd yn cael ei weld yn awgrym y dylai’r Prif Weinidog arwain yr ymgyrch ar ôl ymddeol o’r brif swydd ymhen pythefnos.