Mae’r Fatican yn cyhoeddi cyfres o bedwar llyfr newydd er mwyn egluro sut y gwnaeth Michelangelo ac artistiaid eraill droi’r Beibl yn rhai o baentiadau enwocaf y byd.
Mae cyfrol gyntaf y gyfres The Painted Word sy’n cael ei chyhoeddi gan y Fatican ei hun yn canolbwyntio ar luniau Michelangelo o lyfr Genesis a chreu’r byd ar nenfwd y Capel Sistine.
Mae’r capel yn darlunio golygfeydd o lyfr Genesis a chreadigaeth y byd.
Yn ôl Cyfarwyddwr Amgueddfa’r Fatican, Antonio Paolucci, mae’r gyfrol gyntaf yn cynnig “cod sylfaenol” i ddeall y symbolau a’r golygfeydd sy’n addurno’r ystafell lle pabau’n cael eu dewis.
Bydd dwy gyfrol arall yn dilyn ac yn canolbwyntio ar ddarluniau artistiaid megis Sandro Botticelli o’r bymthegfed ganrif ac un am baentiad Dydd y Farn gan Michelangelo etoyn cael ei gyhoeddi y ryddhau 11 Rhagfyr.