Mae Prif Weinidog Awstralia wedi dweud fod ganddo “bryderon” am yr Eglwys Seientoleg ar ôl i seneddwr alw am ymchwiliad i’r “cwlt”.

Galwodd y seneddwr annibynnol Nick Xenophon am ymchwiliad i’r grefydd ddadleuol neithiwr.

“Mae wedi gwneud cyhuddiadau difrifol iawn,” meddai’r Prif Weinidog Kevin Rudd. “Mae gan nifer o bobol yn Awstralia bryderon am Seientoleg a dw i’n rhannu rhai o’u pryderon.”

Mae Nick Xenophon wedi cyfeirio saith llythyr gan gyn-Seientolegwyr at heddlu talaith New South Wales – maen nhw’n gwneud honiadau am gam-drin rhywiol a blacmel, ymysg cyhuddiadau eraill.

Mewn datganiad mae’r eglwys wedi cyhuddo’r seneddwr o “gamddefnydd gwarthus o fraint seneddol” – yr hawl i ddweud rhywbeth yn y senedd heb beryg o achos enllib.

Fe gafodd yr Eglwys Seientoleg, a ffurfiwyd gan yr awdur ffuglen wyddonol L Ron Hubbard yn 1953 – ei heithrio o dalu treth ar ôl i Uchel Lys Awstralia benderfynu ei fod o’n grefydd yn 1983.