Mae cynghorydd sir yng Nghasnewydd yn awgrymu bod pobol sy’n tipio sbwriel yn achosi llifogydd.
Mae’r cynghorydd Alan Morris wedi dweud wrth bapur newydd y South Wales Argus fod gwastraff cartref a throliau siop ymhlith yr hyn sy’n cael ei adael mewn ffosydd a nentydd yn ardal Lliswerry o’r ddinas.
Mae Lliswerry ymhlith rhannau isaf y ddinas, meddai wrth y papur, ac mae lefel y dŵr yn cael ei godi’n uwch gan y sbwriel, yn enwedig ar ôl glaw trwm fel yr hyn sydd wedi bod yn ddiweddar.
Mae Alan Morris wedi galw ar bobol leol i gael gwared â’u gwastraff yn y gyfreithlon ac i roi gwybod i’r awdurdodau os ydyn nhw’n gweld unrhyw un yn taflu sbwriel yn anghyfreithlon.