Mae dyn 81 oed wedi cael ei ffeindio’n farw ar waelod clogwyn ar Ben y Gogarth yn Llandudno.
Fe aeth Lou Thomas ar goll nos Lun, ac fe fu gwylwyr y glannau, hofrennydd o’r Llu Awyr, yn ogystal â chŵn, yn chwilio amdano am fwy na naw awr.
Roedd y corff wedi cael ei ddarganfod gan gerddwr ar waelod clogwyn 20 troedfedd o uchder, sy’n agos i gaffi’r Rest and Be Thankful.
Yn ôl adroddiadau, roedd Lou Thomas yn ddyn gweddw gyda merch a dau o wyrion. Does dim eglurhad eto ynglŷn ag achos ei farwolaeth.