Mae’r cyn Aelod Seneddol Toriaidd Archie Norman wedi ei enwi’n gadeirydd newydd ar gwmni teledu ITV yn dilyn chwilio maith am rywun i gymryd lle Michael Grade.

Bydd Archie Norman, a oedd yn arfer rhedeg cwmni archfarchnadoedd Asda, yn cymryd yr awenau ym mis Ionawr.

Dywedodd Michael Grade, a fydd yn gadael yr un pryd, ei fod “wrth ei fodd” yn rhoi’r swydd i’w olynydd.

“Mae’n etifeddu cwmni sy’n fwy poblogaidd ac effeithlon nag y mae wedi bod ers blynyddoedd lawer a dw i’n gwybod y bydd o’n adeiladau ar yr etifeddiaeth yna,” meddai.

‘Her na alla’i ei wrthod’

Dywedodd Archie Norman y byddai’r swydd yn her, wrth i incwm hysbysebion y cwmni ddisgyn yn sgil y dirwasgiad.

Ond dywedodd ei fod yn her na allai ei gwrthod ac mai ITV oedd un o’r unig gwmnïau a allai fod wedi “ei ddenu’n ôl”.

“Diolch i waith hynod Michael Grade mae’r cwmni wedi dod drwy’r dirwasgiad hysbysebion mwyaf ers degawdau,” meddai.