Mae swyddog heddlu sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelu plant ar-lein wedi ymosod ar rai o brif wefannau rhwydweithio cymdeithasol y byd.
Dywedodd Jim Gamble (dde), pennaeth Canolfan Ecsploetio Plant a Diogelwch Ar-lein y dylai Facebook a MySpace wneud mwy i gadw plant yn saff.
Dywedodd ei fod yn siomedig nad oedd y ddau safle anferth wedi cynnwys “botwm argyfwng” ar gyfer plant oedd yn poeni eu bod nhw mewn peryg.
Gwnaeth ei sylwadau ar ôl i’r wefan Bebo gynnig botwm sy’n caniatáu i ddefnyddiwr roi gwybod am gam-drin, bwlio a gweithgaredd anghyfreithlon. Mae hefyd yn cynnig cyngor am hacio a firysau cyfrifiadurol.
‘Cyfrifoldeb’
Cafodd y botwm ei ychwanegu ar ôl i arolwg yn Lloegr ddarganfod ar Bebo y digwyddodd y bwlio yn achos 30% o bob person rhwng 11 ac 16 oed oedd wedi eu bwlio ar-lein.
Dywedodd Jim Gamble nad oedd unrhyw reswm dros beidio â chynnwys y botwm: “Mae’r rhan fwyaf o fusnesau yn gwneud eu gorau i sicrhau bod yr amgylchedd yn un saff. Dw i’n cyfeirio’n benodol ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.
“Maen nhw’n gwneud eu harian drwy ddenu pobol ifanc a gwerthu hysbysebion. Mae gyda nhw ddyletswydd i warchod pobol ifanc.”