Bydd swyddi yn cael eu colli yng nghanolfan fysus Caerfyrddin fis nesaf – ac mae’n debyg y bydd amserlenni a theithiau hefyd yn cael eu newid.
Fe allai hynny olygu y bydd rhai ardaloedd yn cael eu gadael heb eu gwasanaethau arferol.
Mae First Cymru wedi cadarnhau y bydd mwy na 20 o swyddi yn cael eu colli yn nepot Heol Dolgwili ddechrau mis Rhagfyr, a hynny’n rhan o’r newidiadau i wasanaethau yn y rhanbarth.
Gall hyd at 18 o wasanaethau bysus gael eu dileu, gyda llawer mwy yn cael eu newid neu eu lleihau.
Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu bod yn cael trafferth i ddod o hyd i gwmni i gymryd y teithiau yn eu lle.
‘Ailfodelu’
“Mae timau’r Cyngor yn gweithio gyda chwmnïau bysus i geisio dod o hyd i weithredwyr sydd â’r gallu i wasanaethu’r teithiau sydd dan fygythiad,” meddai Ron Cant, o’r Cyngor Sir.
“Oherwydd yr hinsawdd economaidd, does gan y cwmnïau bysus ddim hyfforddwyr neu yrwyr segur, felly mae’n bosib y bydd rhai gwasanaethau yn cael eu hailfodelu, a hynny wedi ei seilio’n llwyr ar y galw ymhlith teithwyr.”
Yn ôl llefarydd ar ran First Wales, mae patrymau teithio pobol wedi newid ac, er mwyn adlewyrchu hyn, maen nhw’n addasu rhai o’r gwasanaethau.
Ar hyn o bryd, yn ôl Rheolwr Cludiant y Cyngor Sir, Steve Pilinger, maen nhw’n adolygu ac yn ail-dendro teithiau.
“Bydd y gwasanaethau yn parhau nes y bydd y cyfnod rhybudd priodol yn cael ei gwblhau.”