Mae banc Lloegr wedi penderfynu pwmpio £25 biliwn arall i mewn i’r economi yn wyneb pryderon bod Prydain ar ei hôl hi wrth ddianc o grafangau’r dirwasgiad.
Pledleisiodd Banc Lloegr i ymestyn ei raglen argraffu arian i £200 biliwn, gyda’r nod o gynyddu faint o arian sydd ar gael a helpu’r economi.
Ar ddiwedd y cyfarfod dau ddiwrnod, penderfynodd y Pwyllgor Polisi Ariannol hefyd i gadw cyfraddau llog ar 0.5%.
Bydd y penderfyniad yn tawelu rhywfaint ar alwad economegwyr sydd wedi bod yn gofyn am argraffu hyd at £50 biliwn yn ychwanegol yn sgil arafwch adferiad yr economi.
Cwympodd yr economi 0.4% rhwng mis Gorffennaf a Medi, er gwaetha’r ffaith bod gwledydd eraill fel yr Almaen, Ffrainc a’r Unol Daleithiau wedi gweld twf.
Ond dywedodd Banc Lloegr fod yna nifer o arwyddion yn dangos y byddai economi Prydain yn dechrau tyfu eto, “yn araf”, cyn hir.