Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn archwilio am ladron sydd wedi dwyn stampiau Nadoligaidd – ychydig yn gynt na phryd.

Dyw’r stampiau ddim wedi cael eu cyhoeddi’n swyddogol gan y Post Brenhinol eto, ac mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sy’n cael cynnig y stampiau am bris rhad i gysylltu â nhw.

Cafodd y stampiau eu cynllunio gan arlunwyr adnabyddus o wledydd Prydain, ac maen nhw’n cynnwys lluniau o’r Madonna a’i phlentyn, angel, Joseff, dyn doeth, a bugail.

Cafodd gwerth dros £10,000 mewn eiddo ei ddwyn hefyd yn y lladrad mewn siop bapur newydd – gan gynnwys arian parod, cardiau ffôn, sigarennau a thocynnau.

Fe wnaeth y lladron dorri mewn drwy ddrws cefn siop Martin’s ar Excalibur Drive, Draenen Pen-y-Graig (Thornhill) Caerdydd, wedi hanner nos ddydd Llun 2 Tachwedd.

Fe wnaeth y lladron agor un sêff fawr yn y siop, a dwyn un arall llai.

Mae’r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd a gwybodaeth â CID Llanederyn ar y rhif 029 2052 7444, neu trwy alw Taclo’r Tacle ar y rhif 0800 555111.