Mae chwaraewyr amlwg o Gaerdydd ac Abertawe wedi cytuno bod angen cadw pen yn y gêm ddarbi rhwng y ddau dîm ddydd Sadwrn.
Mae nifer o chwaraewyr wedi cael eu danfon o’r cae yn y gemau diweddara’ rhwng y ddau glwb ac mae gwrthdaro wedi bod rhwng y cefnogwyr hefyd.
Ond mae amddiffynnwr Caerdydd, Anthony Gerrard, a Darren Pratley, chwaraewr canol cae Abertawe, yn dweud bod angen disgyblaeth i ennill y gêm.
Fe ddywedodd Gerrard wrth wefan y BBC mai “hunanfeddiant” fyddai’n allweddol, ac os bydd chwaraewyr yn mynd yn rhy gynhyrfus, maen nhw’n fwy tebygol o “wneud rhywbeth gwirion”.
Mae’n rhaid bod yn “ddisgybledig” meddai, gan y byddai hi’n llawer anoddach ennill gyda dim ond 10 dyn. Cafodd chwaraewr Caerdydd, Stephen McPhail, ei anfon oddi ar y cae ddwywaith yn ystod y tair gêm rhwng y clybiau y tymor diwetha’.
Mewn cyfweliad ar wahân â Radio Wales Sport, fe gytunodd chwaraewr canol cae Abertawe, Darren Pratley, â geiriau ei wrthwynebydd. Dywedodd mai’r tîm a fydd yn llwyddo i ganolbwyntio orau a “chadw eu pennau” fydd yn ennill.
• Ond roedd yna rybudd bach i Abertawe neithiwr wrth i flaenwr Caerdydd, Ross McCormack, ddod yn ôl ar ôl anaf i chwarae am awr i ail dîm y brifddinas … a sgorio clincar o gôl i gic rydd yn erbyn Exeter. Ef fydd yn arwain lein Caerdydd yn absenoldeb Michael Chopra.