Fe ddylai parciau cenedlaethol yng Nghymru gyfrannu at les economaidd a chymdeithasol eu cymunedau, yn ogystal â’u dyletswyddau gwarchod a chynllunio.

Dyna un o brif argymhellion adroddiad a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig heddiw i nodi 60fed pen-blwydd y ddeddf a greodd y parciau.

Mae’r adroddiad yn dweud y dylai parciau cenedlaethol yng Nghymru gael eu hannog i fod yn “fwy blaengar wrth hyrwyddo mentrau ffermio, twristiaeth a swyddi”.

Byddai hyn yn golygu newid sylweddol yn swyddogaethau Parciau Cenedlaethol Cymru o’r pwyslais traddodiadol sy’n canolbwyntio ar gadwraeth.

Nid “cadwraeth” yn unig

Dylai parciau cenedlaethol hefyd hybu defnydd o ynni gwyrdd, coetiroedd, marchnadoedd ffermwyr a ffeiriau bwyd yn ogystal â thrafnidiaeth werdd, meddai’r Sefydliad.

Mae’r adroddiad yn dadlau fod angen cytundeb fel bod pobol y trefi yn cyfrannu at gynnal cefn gwlad.

Nid tir gwledig i “gynhyrchu bwyd a deunyddiau amrwd eraill yw tir Cymru’n unig” meddai’r adroddiad, ond mae ganddo rôl a gwasanaeth amgylcheddol i’w cyflawni i’r gymdeithas.

Yn sgil hyn, mae’r adroddiad yn dadlau y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru “hyrwyddo deddfwriaeth newydd” i roi rhagor o gyfrifoldebau cymdeithasol-economaidd i’r Parciau.