Dylai Aelodau Seneddol yn Llundain ddim cael bod yn aelodau o Senedd Cymru neu’r Alban hefyd, yn ôl yr adroddiad hir ddisgwyliedig i gostau yn Nhŷ’r Cyffredin.
Fe fyddai hynny’n effeithio, er enghraifft, ar Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, ac yn y gorffennol ar nifer o ASau Cymreig.
Yn ôl y disgwyl, mae’r adroddiad hefyd yn argymell na ddylen nhw ddim cael hawlio am log ar daliadau morgais na chael cyflogi aelodau o’u teulu ar draul y cyhoedd.
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, Syr Christopher Kelly, bod y cynigion yn “deg a rhesymol”.
Roedd yn cydnabod y byddai’r cynigion yn arwain at “newid mawr” i ASau ac y dylen nhw gael eu cyflwyno dros gyfnod o bum mlynedd, neu oes un Senedd.
Mae’r argymhellion pennaf yn dweud y dylai Awdurdod Safonau Seneddol annibynnol newydd benderfynu ar dai, costau a phensiynau ASau.
Mae’r adroddiad hefyd yn gwahardd ASau rhag newid eu hail gartref o un adeilad i’r llall er mwyn cael hawlio costau i’w hailwampio.
Costau – y rhestr newydd
Yn y dyfodol dyma’r unig bethau y bydd modd hawlio amdanyn nhw:
• rent ail gartref neu westy
• treth cyngor
• biliau
• llinellau ffôn
• diogelwch
• yswiriant
• costau symud ar ddechrau neu ddiwedd tenantiaeth
Fydd dim modd hawlio am gostau glanhau na garddio nac am ddodrefn ac eitemau eraill o’r fath.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn dweud na ddylai ASau sydd o fewn “pellter teithio rhesymol” o San Steffan fedru hawlio am ail dy o gwbl.
‘Niwed’
Dywedodd Christopher Kelly wrth gyfarfod gyda’r wasg y dylai pob un o’r argymhellion gael eu derbyn. Ac fe rybuddiodd ASau rhag cael eu temtio i wrthod rhai o’r darpariaethau wrth i atgasedd y cyhoedd bylu.
“Byddai hynny’n gamgymeriad. Mae’r niwed sydd wedi ei wneud yn fawr iawn. Fydd ffydd y cyhoedd ddim yn cael ei ail ennill tan fod y rheiny sydd mewn awdurdod yn penderfynu troi cefn ar gamddefnydd y gorffennol.”
Y disgwyl yw y bydd rhai ASau’n anfodlon gyda rhai o’r penderfyniadau ac eraill, fel Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd, yn teimlo nad ydyn nhw’n mynd yn ddigon pell.
Fe ddywedodd heddiw y byddai’n hoffi gweld ASau’n cael eu hatal rhag gwneud swyddi eraill, ychwanegol.