Mae Banc yr RBS yn bwriadu torri 3,700 o swyddi ar draws gwledydd Prydain mewn ymgais i foderneiddio systemau’r cwmni.

Fe ddaw’r penderfyniad wedi adolygiad strategol, ac fe fydd y toriadau’n dechrau o fis Mai’r flwyddyn nesaf. Does dim manylion eto am nifer y swyddi sy’n mynd yng Nghymru.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud wrth grŵp bancio RBS a Lloyds bod angen iddyn nhw werthu rhannau o’u busnes er mwyn sicrhau cystadleuaeth.

Dywedodd y banc bod eu staff yn gwneud 30% yn fwy o waith gweinyddol o’i gymharu â’u cystadleuwyr a bod angen y newidiadau er mwyn canolbwyntio ar wasanaeth i gwsmeriaid.

‘Gwallgofrwydd’ – meddai undeb

Mae undeb llafur Unite wedi disgrifio’r penderfyniad i dorri swyddi fel “gwallgofrwydd llwyr”

“Mae RBS wedi penderfynu y dylai costau rheng flaen gael eu torri er mwyn rhoi arian at yr argyfwng a gafodd ei achosi gan fancwyr y ddinas,” meddai swyddog cenedlaethol Unite, Rob MacGregor.

Mae Unite yn holi hefyd sut y bydd y banc yn gallu rhoi gwasanaeth o safon uchel i’r cwsmeriaid gyda llai o’u staff yn gweithio yn y canghennau. Mae’r banc yn cyflogi mwy na 100,000 o bobol trwy wledydd Prydain.