Mae Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Cymru wedi condemnio bwriad y Ceidwadwyr i gael gwared ar 10% o seddi San Steffan.

Mae Rhodri Morgan a Peter Hain yn dweud y byddai cael gwared ar gymaint â hynny o ASau yng Nghymru – 4 sedd i gyd – yn rhwygo’r map gwleidyddol ac yn creu problemau i’r Cynulliad hefyd.

Mae’r Ceidwadwyr yn cyflwyno polisïau hanner pan, popiwlist, tymor byr, heb ystyried eu canlyniadau, medden nhw.

Ym mis Medi y dywedodd arweinydd y Torïaid, David Cameron, y byddai’n ystyried torri ar nifer yr Aelodau Seneddol o 10% petai’i blaid yn dod i rym.

Problemau i’r Cynulliad

Yn ôl y ddau arweinydd Llafur, fe fyddai hynny’n creu etholaethau anferth newydd yng Nghymru a’r rheiny heb fod yn ystyried patrwm cymunedau, cyfrifoldebau cynghorau lleol na daearyddiaeth.

Fe ddywedon nhw hefyd y byddai newid o’r fath yn effeithio ar y Cynulliad, gan fod Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud fod yn rhaid i seddi’r Cynulliad rannu’r un ffiniau â rhai seneddol.

Yn ôl Peter Hain, mae hyn yn “dangos eto” nad yw Cymru’n “cyfri dim” i’r Blaid Geidwadol a gwadodd Rhodri Morgan yr awgrym fod gan ASau o Gymru lai i’w wneud ers sefydlu’r Senedd yng Nghaerdydd.

“O fod yn briod ag un (Julie Morgan, AS Gogledd Caerdydd) “fe alla’ i ddweud yn bendant nad yw hi ddim yn teimlo felly,” meddai.

Y Ceidwadwyr yn cadw at eu barn

Torri cost gwleidyddiaeth yw’r nod, meddai’r Ceidwadwyr, ac fe fyddai gan Gymru lais cry’ yn San Steffan o hyd.

“Rydyn ni’n credu fod achos cryf am leihau’r nifer o Aelodau Seneddol yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr.

“Dydyn ni ddim wedi dweud pa seddi y bydden ni’n cael gwared â nhw, ond fe fyddwn ni’n gofyn i’r Comisiwn Ffiniau osod cynigion manwl.”

Llun: Rhodri Morgan