Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref yn cwrdd gyda’r aelodau sydd ar ôl o’i gyngor ymgynghorol ar gyffuriau – wrth iddyn nhw hefyd fygwth ymddiswyddo.
Mae dau o’r aelodau wedi mynd eisoes ar ôl i’w cadeirydd gael y sac am wrthwynebu safbwynt y Llywodraeth ac roedd y gweddill wedi sgrifennu llythyr cwyn at yr Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson.
Roedden nhw’n dweud y byddai’n anodd iawn iddyn nhw barhau gyda’r gwaith ar ôl i’r Athro David Nutt gael ei ddiswyddo.
Amddiffyn
Yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, fe fu Alan Johnson yn amddiffyn ei benderfyniad ac fe gafodd gefnogaeth gan y Prif Weinidog, Gordon Brown, a’r Blaid Geidwadol.
Mae wedi dweud nad oedd modd i David Nutt fod yn ymgynghorydd i’r Llywodraeth ac ymgyrchu yn ei herbyn. Roedd wedi colli ffydd yn yr ymgynghorydd, meddai.
Ond cefnogi David Nutt a wnaeth llefarydd cartref y Democratiaid Rhyddfrydol, Chris Huhne. Doedd sylwadau’r Athro ddim yn groes i god ymarfer ymgynghorwyr, meddai.
Adolygiad
Mae’r Swyddfa Gartref bellach wedi cyhoeddi y bydd adolygiad o holl waith y Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnydd Cyffuriau, ond maen nhw’n gwadu fod hynny oherwydd helynt David Nutt.
Maen nhw’n honni bod yr alwad wedi ei gwneud ers mwy na phythefnos.
Mae cyn gwas sifil y Swyddfa Gartref, Syr David Omand, wedi cael ei benodi i gynnal yr adolygiad, gan adrodd yn ôl y flwyddyn nesaf.
Fe fydd yn ystyried a yw’r cyngor yn atebol, yn gweithredu ei ddyletswyddau’n briodol, ac a yw’n parhau i roi gwerth am arian.
Llun: Alan Johnson (Trwydded CCA 2.0)