Fe fydd hi’n bosibl i bobol sy’n prynu ceir ail law wybod yn union pa mor ‘wyrdd’ ac economaidd yw pob model drwy god o liwiau arbennig.
O dan gynllun gwirfoddol, fe fydd gwerthwyr ceir yn gallu darparu gwybodaeth am gostau rhedeg y rhan fwya’ o geir ar labeli arbennig.
Mae’r cynllun yn bod ers tro ar geir newydd ond mae bellach yn cael ei ymestyn i geir ail-law hefyd ac, yn ôl un gwerthwr adnabyddus, fe fydd yn apelio at y boced.
“Nid er mwyn llygru llai o’r byd y mae llawer o brynwyr sy’n honni dal egwyddor werdd yn edrych ar y labeli,” meddai Gari Wyn, perchennog Ceir Cymru yn y Gogledd.
“Maen nhw’n edrych arnyn nhw oherwydd eu bod nhw eisiau talu llai o dreth ac yn awyddus i ddewis y car rhata’. Dyna’r gwir plaen”.
Gwybodaeth glir
Nod y labeli hyn yw darparu gwybodaeth ‘hawdd i’w ddarllen’ i gwsmeriaid am wneuthurwyr a model y car, ei allyriadau CO2 a chostau tanwydd dros 12,000 o filltiroedd a milltiroedd y galwyn.
“Mae costau rhedeg ceir a’u perfformiad amgylcheddol yn dod yn ffactorau cynyddol bwysig i bobol sydd eisiau prynu ceir newydd ac ail-law,” meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth Sadiq Khan yn San Steffan.
“Dw i felly’n hynod falch fod y cynllun labeli yma yn dod i rym ar geir ail law hefyd. Fe fydd y cynllun hwn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar brynwr i sicrhau bargen iddyn nhw’u hunain ac i’r amgylchedd.”
Y cefndir
Mae’r cynllun wedi cael ei ddatblygu gan Bartneriaeth Carbon Isel Cerbydau (LowCVP) gyda chefnogaeth y Llywodraeth.
Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr LowCVP, Greg Archer: “Mae cymaint â 94% o werthwyr ceir yn arddangos y labeli hyn ar eu ceir, tra mae 71% o brynwyr yn dweud bod y label yn ffactor pwysig i gwsmeriaid wrth ystyried dewis car.”
Dywedodd Llywydd yr AA, Edmund King y byddai’r cynllun yn “rhoi diwedd ar ansicrwydd prynwyr ceir am effeithiolrwydd tanwydd”.