Fydd ymosodwr Caerdydd, Michael Chopra ddim ar gael i wynebu Abertawe y penwythnos nesa’ yn gêm ddarbi fawr de Cymru.

Fe dderbyniodd y blaenwr ei bumed carden felen y tymor hwn yn y gêm ddoe ac mae ef a Chaerdydd wedi penderfynu derbyn y gwaharddiad yn syth, yn hytrach nag aros saith niwrnod.

Fe fydd hynny’n ergyd i obeithion Caerdydd i sicrhau buddugoliaeth yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn nesaf wrth i’r Adar Glas wynebu’r ail amddiffyn gorau yn y Bencampwriaeth.

Na McPhail chwaith

Mae’n debyg na fydd y chwaraewr canol cae Stephen McPhail ar gael chwaith ar ôl gorfod gadael y cae wedi dim ond 26 munud o’r gêm gyfartal yn erbyn Nottingham Forest.

“Mae Stevie wedi tynnu cyhyr, ac rwy’n amau a fydd e ar gael ddydd Sadwrn nesaf”, meddai rheolwr Caerdydd, Dave Jones.

Roedd yntau’n weddol hapus gyda’r pwynt yn erbyn Forest er mai dim ond yn y munudau ola’ y sgoriodd y Saeson i ddod yn gyfartal.

“Yn gyffredinol, rwy’n hapus gyda’r pwynt ond yn siomedig i fethu â dal ein gafel i ennill,” meddai Dave Jones.