Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi cynllun i geisio lleihau’r nifer o hunanladdiadau ac achosion o bobol yn anafu eu hunain.

Amcan y cynllun ‘Beth am Siarad â Fi?’ yw annog pobol i siarad am eu trafferthion, ac i godi ymwybyddiaeth a chael gwared â’r stigma sy’n gysylltiedig â thrafferthion emosiynol ac iechyd meddwl.

Roedd drafft o’r cynllun eisoes wedi cael ei baratoi flwyddyn ddiwethaf, ond daw’r cynllun diweddaraf ar ôl cyfnod o ymgynghori.

Wedi dechrau eisoes

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, mae llawer o argymhellion y cynllun gwreiddiol wedi dechrau’n barod:

• Mae bron i 2,000 o staff sy’n dod i gysylltiad â’r cyhoedd wedi cael hyfforddiant i adnabod a rhoi cymorth i bobol sy’n dangos arwyddion o broblemau meddwl.

• Mae 900 o ofalwyr wedi derbyn hyfforddiant ymarferol ynglŷn â sut i helpu pobol sydd ar fin lladd eu hunain.

• Mae gwasanaeth ffôn a thestun cenedlaethol ar gyfer pobol sydd â phroblemau iechyd meddwl bellach ar agor 24 awr y dydd. (Derbyniodd y Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol 20,277 o alwadau rhwng Hydref 2008 a Hydref 2009 – 50% yn fwy na’r flwyddyn cynt.)

• Penodwyd trefnydd cenedlaethol ar gyfer y Samariaid yng Nghymru ym mis Hydref 2009, drwy nawdd Llywodraeth y Cynulliad.

Yn ogystal â hyn, mae cwrs byr yn dechrau ym mis Ebrill 2010, a fydd yn dysgu gweithwyr iechyd proffesiynol sut i adnabod arwyddion o ddioddef emosiynol. Bydd y cwrs ‘Cysylltu â Phobl’ yn cael £85,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Llywodraeth wedi rhoi mwy na £400,000 y flwyddyn i’r llinell 24 awr, a £100,000 y flwyddyn i dalu am drefnydd y Samariaid. Mae £1.7 miliwn yn cael ei roi gan y Llywodraeth a Chronfa’r Loteri ar gyfer y rhaglenni hyfforddi.

‘Dim gostyngiad dros nos’

Fydd dim gostyngiad mawr mewn achosion “dros nos” yn ôl y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, ond dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd y cynllun yn gymorth i gyrraedd y bobol fwyaf bregus.

“Gydag un o bob pedwar ohonon ni’n debygol o brofi rhyw fath o anhwylder meddwl yn ystod ein bywydau, mae’n bwysig ein bod yn deall yn well y rheini sy’n dioddef, a’i gwneud hi’n haws iddyn nhw ofyn am help” meddai Edwina Hart.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, y Dr Tony Jewell, bod y ffaith fod nifer y galwadau i’r llinell gymorth wedi cynyddu ers y llynedd yn arwydd calonogol gan fod mwy o bobl wedi dod i wybod am y gwasanaeth a’u bod yn fwy parod i siarad am eu gofidiau.

“Dyw siarad am broblemau ddim yn creu nac yn cynyddu’r risg,” meddai. “Mae’n ei leihau. Trwy ddeall y problemau, bydd pobol yn fwy abl i helpu neu’n gwybod ble i fynd am help.”