Mae’n bosib y gallai criwiau awyren British Airways fynd ar streic bedwar diwrnod cyn y Nadolig, ar un o adegau prysura’r flwyddyn.

Os bydd undeb Unite yn cadw at ei fwriad i alw pleidlais am streic, fe fyddai’r canlyniad ar gael erbyn cyfarfod nesa’ o gynrychiolwyr y criwiau caban a streic yn gallu dechrau wythnos wedyn, ar Ragfyr 21.

Mae’r criwiau’n anhapus oherwydd bwriad BA i dorri ar eu niferoedd ar deithiau hir – gan arwain at golli swyddi – ac i newid rhywfaint ar eu hamodau gwaith. Mae 2,000 o gynrychiolwyr yn cyfarfod heddiw.

Ond mae’r cwmni wedi pwysleisio y byddai llawer o’r staff yn cael codiadau cyflog ac nad yw cynnal pleidlais ar streic o angenrheidrwydd yn golygu y bydd gweithredu.

‘Blin a rhwystredig’

“Mae pobl yn teimlo’n flin ofnadwy ac yn rhwystredig tuag at weithredoedd BA,” meddai Steve Turner, Swyddog Cenedlaethol Unite, sydd â 13,000 o weithwyr o fewn y cwmni.

“Yn arbennig, o ystyried yr holl waith caled y maen nhw wedi’i roi i mewn a’n holl ymdrech ni fel undeb i awgrymu arbedion – awgrymiadau y mae’r cwmni wedi’u diystyru.”

Os aiff criwiau caban BA ar streic, dyma fydd y streic gyntaf o’i bath ers 1997.