Dylai milwyr yr ochr arall, gwrthwynebwyr cydwybodol a’r rhai a gafodd eu saethu am ddianc o’r ymladd gael eu cydnabod ar Sul y Cofio, yn ôl sefydliad polisi crefyddol.

Dylai 11 Tachwedd “adlewyrchu” rhyfel yn ei “gyfanrwydd”, gan gynnwys pawb a fu farw o ganlyniad i ryfel, yn ôl adroddiad Reimagining Remembrance gan y sefydliad Ekklesia.

Wrth gofio rhyfel, meddai, fe ddylai’r eglwysi wneud hynny mewn ffordd sy’n hybu bywyd – trwy heddwch a chymod ac adfer.

Mae yna nifer o awgrymiadau penodol eraill:

• Mae angen rhoi mwy o sylw i filwyr sydd wedi cael eu hanafu, a pherthnasau sy’n parhau i ddioddef ar ôl colli rhywun o achos rhyfel.

• Dylai’r Eglwys Anglicanaidd a’r Eglwys Gatholig ystyried cyflwyno caplan neu esgob i’r “lluoedd di-arf” yn ogystal ag i’r lluoedd arfog”.

• Dylai “erchyllterau” gael eu cofio ynghyd â dewrder, er mwyn dweud y “gwir cyfan”, meddai’r adroddiad.

Yn ôl un o gyfarwyddwyr Ekklesia, Jonathan Bartley, “twyllodrus” yw cofio mewn ffordd sy’n “eithrio pobol” oherwydd ein bod ni’n “teimlo’n anghyfforddus” gyda’r hyn wnaethon nhw.

“Mae angen i ni gael cofio mwy gonest, cyfartal, a chynhwysol,” meddai’r corff sydd yn y gorffennol wedi codi gwrychyn mudiadau milwrol trwy ddadlau tros babi gwyn heddwch yn hytrach na’r pabi coch.

Llun: Coeden babi goch yng Nghaerdydd