Mae newyddion gwell na’r disgwyl o fewn y diwydiant cynhyrchu wedi codi gobeithion fod yr economi’n gwella.

Mae ystadegau gan y Sefydliad Prynu a Chyflenwi Siartredig (CIPS) yn dangos bod twf yn y sector ar ei orau ers union ddwy flynedd – mis Tachwedd 2007.

Gydag unrhyw sgôr tros 50 yn arwydd o dwf, roedd y sgôr ym mis Hydref yn 53.7 o’i gymharu â 49.9 ym mis Medi. Dyma’r trydydd cynnydd mwyaf yn hanes y mynegai.

Dywedodd prif weithredwr CIPS, David Noble, ei bod hi’n ymddangos bod y sector gynhyrchu wedi “troi cornel” ac yn dechrau “tynnu ei hun allan o ddirwasgiad”.

Ond, roedd ganddo rybudd – er bod cynhyrchu ac archebion newydd wedi llamu’n ôl, roedd y diwydiant yn parhau’n “fregus iawn”.

“Mae’r sector wedi cael ei daro mor galed ers i’r dirwasgiad ddechrau,” meddai, “fe fydd yn amser hir cyn iddo ddychwelyd i’r lle yr oedd.”

Fe ddaeth rhybudd arall gan economegydd amlwg o’r enw Jeegar Kakkad – fe fydd yr economi’n parhau’n fregus pan ddaw mesurau cefnogi’r Llywodraeth i ben y flwyddyn nesa’, meddai.

Llun: Ffatri geir (Taneli Ramjala – Trwydded GNU)