Mae David Cameron wedi dweud y byddai punt y Ceidwadwyr yn mynd yn llawer pellach na phunt Llafur wrth ofalu am y Gwasanaeth Iechyd.

Mewn araith yn Llundain, fe addawodd arweinydd y Torïaid y bydden nhw’n gwarchod arian y Gwasanaeth ond yn gwario’n well na Llafur. Y targed mawr fyddai costau gweinyddol y gwasanaeth.

Dim ond am Loegr yr oedd David Cameron yn sôn, mae Ceidwadwyr Cymru wedi cefnogi ei ddatganiad.

Ond petai’r Torïaid yn ennill yn Llundain ond yn methu ag ennill grym yng Nghaerdydd, fe allai olygu gwahaniaeth mawr rhwng y gwasanaeth yn y ddwy wlad.

Dywedodd David Cameron na allai gwario ar y Gwasanaeth Iechyd “sefyll yn stond”, ond doedd hynny, meddai, ddim yn golygu y byddai’r Torïaid yn “arllwys arian i mewn fel mae Llafur wedi gwneud”.

“Mae angen diwygiad ar frys arnon ni i wneud ein gwasanaeth iechyd yn fwy effeithlon” meddai. “R’n ni’n benderfynol y bydd punt y Ceidwadwyr yn mynd yn llawer pellach na phunt Llafur.”

Dywedodd fod talu £4.5 biliwn y flwyddyn am weinyddu’r Gwasanaeth yn “rhyfeddol”, a bod angen torri traean o hynny yn ystod y pedair blynedd nesaf.

Barn Ceidwadwyr Cymru

Dyma ddatganiad gan garfan y Ceidwadwyr yn y Cynulliad:

“R’yn ni’n rhannu blaenoriaethau David Cameron ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd. R’yn ni wedi dadlau ers tro bod angen i’r Gwasanaeth yng Nghymru fod yn canolbwyntio mwy ar gleifion, gyda rhagor o ddewis, llai