Tynnu Paul James i mewn ar y pen tynn a chadw Gethin Jenkins ar y pen rhydd oedd y penderfyniad mawr wrth i Warren Gatland enwi tîm Cymru i wynebu Seland Newydd ddydd Sadwrn.
Yr ail benderfyniad mawr, ond un llai dadleuol, oedd rhoi James Hook o’r Gweilch yn safle’r cefnwr, gan fod Lee Byrne wedi brifo a’r garfan heb gefnwr arbenigol.
Gydag Adam Jones allan oherwydd anaf, fe wrthododd yr hyfforddwr y temtasiwn i symud Gethin Jenkins ar draws y rheng flaen – y farn gyffredinol yw mai ef yw prop pen rhydd gorau’r byd.
Dim ond ail gap yw hwn i Paul James a dyw yntau ddim wedi arfer llawer ar y pen tynn. Bachwr y Scarlets, Matthew Rees, sy’n cwblhau’r rheng flaen.
Yn yr ail reng mae clo’r Gweilch, Alun Wyn-Jones ynghyd â Luke Charteris o’r Dreigiau.
Mae’r capten Ryan Jones wedi cael ei ddewis yn safle’r wythwr, gydag wythwr y Gleision, Andy Powel, yn symud i’r ochr dywyll y rheng ôl a Martyn Williams o’r Gleision ar yr ochr agored.
Cefnwyr
Y testun trafod arall oedd safle’r cefnwr – fel arfer mae Hook yn chwarae fel maswr neu ganolwr i’r Gweilch, ac mae eisoes wedi nodi ei fwriad i frwydro am y crys rhif deg gyda’r rhanbarth a thros ei wlad.
Ond roedd yna un syndod arall, wrth i Gatland ddewis Leigh Halfpenny ar yr asgell dde yn lle capten y Scarlets Mark Jones, sydd wedi brifo. Gyda Shane Williams ar y chwith, mae’r ddau asgellwr yn gymharol fach.
Cryfder fydd yn y canol, gyda chanolwyr y Gleision, Tom Shanklin a Jamie Roberts yn parhau eu partneriaeth ar y lefel ryngwladol.
Gyda Mike Phillips wedi brifo a Dwayne Peel heb fod ar gael, mae Gareth Cooper yn cael cyfle yn safle’r mewnwr gan ymuno â maswr y Scarlets, Stephen Jones.
Mae Jonathan Davies, canolwr y Scarlets, yn nesu at ei gap cynta’ trwy gael lle ar y fainc.
Tîm Cymru
15. James Hook 14. Leigh Halfpenny 13. Tom Shanklin 12. Jamie Roberts 11. Shane Williams 10. Stephen Jones 9. Gareth Cooper.
1. Gethin Jenkins 2. Matthew Rees 3. Paul James 4. Alun Wyn-Jones 5. Luke Charteris 6. Andy Powell 7. Martyn Willimas 8. Ryan Jones.
Eilyddion – Duncan Jones; Huw Bennett; Bradley Davies; Dafydd Jones; Martin Roberts; Jonathan Davies;; Tom James.
Llun: Gethin Jenkins