Fydd yna ddim ail rownd o etholiadau yn Afghanistan ddiwedd yr wythnos hon.

Heb roi unrhyw fanylion nac esboniad, fe gyhoeddodd prif swyddog Comisiwn Etholiadol y wlad na fyddai’r bleidlais yn digwydd.

Roedd hyn yn ymateb i benderfyniad un o’r ddau ymgeisydd Abdullah Abdullah i dynnu’n ôl o’r ornest gan brotestio y byddai’n annheg.

Mae hyn yn golygu y bydd yr ymgeisydd arall, yr Arlywydd presennol, Hamid Karzai, yn aros yn ei swydd.

Adeg yr etholiad gwreiddiol, roedd yna brawf o dwyll ar raddfa eang ymhlith cefnogwyr Karzai.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ymweld yn annisgwyl â’r wlad.

Roedd Ban Ki-moon yn bwriadu cyfarfod y ddwy ochr heddiw “er mwyn rhoi sicrwydd iddyn nhw bod cefnogaeth y Cenhedloedd Unedig i ddatblygiad y wlad yn parhau”.

‘Terfynol’ meddai Abdullah

Mae Abdullah Abdullah wedi dweud fod ei benderfyniad i dynnu’n ôl yn derfynol. Methu a wnaeth trafodaethau ddoe i geisio cael cytundeb i ‘rannu pŵer’ rhwng yr ymgeiswyr ar ôl i Hamid Karzai wrthod gwneud unrhyw newidiadau i’r drefn etholiadau.

Cyn y cyhoeddiad heddiw, yr awgrym oedd bod lluoedd y Gorllewin yn awyddus i osgoi ail etholiad, oherwydd problemau diogelwch, ond y byddai diffyg ail bleidlais yn codi amheuon tros hawl Hamid Karzai i aros yn y swydd.

Llun (AP Photo)