Mae bellach yn glir fod cymaint â 30 o bobol wedi eu lladd gan hunan fomiwr y tu allan i fanc yn ninas Rawalpindi ym Mhacistan.

Ymhlith y rhai a gafodd eu lladd gan y ffrwydrad yn Rawalpindi – dinas gerllaw’r brifddinas Islamabad a phencadlys y fyddin – roedd pennaeth yr heddlu yno, Rao Iqbal.

“Roedd llawer o bobl yn gorwedd ar y ddaear gyda chlwyfau’n gwaedu. Roedd un beic modur ar dan a dyn yn llosgi oddi tano” meddai tyst wrth wasanaeth teledu lleol.

“Roedd y cyrff yn gorwedd ym mhob man” meddai swyddog achub. “Mae’n sefyllfa ddychrynllyd ac mae’n digwydd dro ar ôl tro.”

Yn ystod yr wythnosau diwetha’, mae tua 300 o bobol wedi eu lladd mewn ymosodiadau ym Mhacistan, sy’n rhannol yn ymateb i gyrch byddin y wlad ar gadarnleoedd y gwrthryfelwyr yn ne-orlleiwn y wlad.

Mae Arlywydd Pacistan, y prif weinidog ac uwch-swyddogion eraill wedi condemnio’r ffrwydrad heddiw ac wedi addo parhau i geisio dinistrio’r gwrthryfelwyr yn ardal De Waziristan – ardal dlawd ger Afghanistan.

Llun (AP Photo)