Er cyhoeddi elw mawr heddiw, mae’r cwmni teithio awyr rhad, Ryanair, wedi dweud eu bod yn wynebu colledion am weddill y flwyddyn.

Cyhoeddodd Ryanair elw cyn treth am chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol o £376.6 miliwn, cynnydd o bron 300% ar y £94.4 miliwn y flwyddyn gynt.

Ond mae’r cwmni wedi dweud mai’r rheswm am yr elw yma yw’r gwymp o 42% ym mhris petrol ers y llynedd. Ond fe fydd prisiau rhad, medden nhw, yn golygu colled weddill y flwyddyn.

Cwymp mewn prisiau

Yn ôl y cwmni, mae’r elw yn cuddio cwymp ar gyfartaledd o 17% ym mhrisiau teithio, ac fe allai hyn ddisgyn i 20% dros ail hanner y flwyddyn. Yn ogystal, mae gwendid y bunt a threthi hedfan uchel hefyd yn debygol o effeithio ar yr elw.

Roedd yna rybudd arall hefyd – mae Ryanair yn dweud y gallai’r cwmni gael gwared â chynlluniau i ehangu, os na allan nhw gael pris gwell wrth archebu 200 o awyrennau newydd gan gwmni Boeing.

Yn ôl Ryanair, os na fydd Boeing yn fodlon gostwng prisiau, fe fydd y cwmni’n dychwelyd arian i’w cyfranddalwyr yn lle prynu awyrennau.